Lewis Edwards

Lewis Edwards

by D. Densil Morgan
Lewis Edwards

Lewis Edwards

by D. Densil Morgan

eBook

$8.99  $10.39 Save 13% Current price is $8.99, Original price is $10.39. You Save 13%.

Available on Compatible NOOK Devices and the free NOOK Apps.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

A comprehensive study of the work of Lewis Edwards (1809-87), Wales's foremost scholar of the nineteenth century, and one who raised the standard of Nonconformist Wales erudition. A Calvinistic Methodist in his upbringing and through conviction, he was a pious man belonging to his era.


Product Details

ISBN-13: 9781783165933
Publisher: University of Wales Press
Publication date: 07/01/2009
Series: Dawn Dweud
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 314
File size: 9 MB
Language: Welsh

About the Author

D. Densil Morgan is Professor in the School of Theology, Religious Studies and Islamic Studies, University of Wales Trinity St. David.

Read an Excerpt

Lewis Edwards


By D. Densil Morgan

Gwasg Prifysgol Cymru

Copyright © 2009 D. Densil Morgan
All rights reserved.
ISBN: 978-0-7083-2243-7



CHAPTER 1

O Ben-llwyn i Sasiwn Wystog, 1809–1830


'Lewis, the son of Lewis andMargaret Edward, was born at Pwllcenawon in the parish of Llanbadarnfawr in the county of Cardigan the 27 day of October, 1809 at 2 o'clock afternoon.' Felly y cofnoda Beibl y teulu, a'r cofnod yn llaw Lewis Edward, y tad, er bod peth amheuaeth ynghylch y ffeithiau, ac i Lewis Edwards, y mab, dybied mai yn Rhiwarthen, y tyddyn a ffiniai ar Bwllcenawon gerllaw pentref Pen-llwyn ar y ffordd rhwng Ponterwyd a Llanbadarn, y cafodd ei eni. Os yw cofrestr y plwyf yn gywir, yn eglwys Llanbadarn y bedyddiwyd ef ddiwrnod yn ddiweddarach, ond tybir mai camgymeriad yw hynny, yn enwedig am i'w dad ysgrifennu 'Lewis was baptized by the curate of Llanbadarnfawr and registered at Llanbadarnfawr', gan awgrymu i'r ddeubeth ddigwydd ar wahân. Efallai fod rhywfaint o frys ynghylch ei fedydd, ond ni nodir hynny yng nghofnodion y teulu. 'Ymddengys yn debygol, gan hynny', meddai ei gofiannydd, ei fab hynaf Thomas Charles Edwards, 'mai yn y ty y bedyddiwyd ef, ac i'r curad gofrestru'r peth yn y cofrestr'. Beth bynnag am y manylion, erbyn diwedd Hydref 1809 roedd cyntafanedig Lewis a Margaret Edward wedi dod i'r byd.


Y Dechreuadau

Mae'n debyg mai brodor o blwyf Llanbadarn Fawr oedd Lewis Edward yr hynaf (1783–1852), ac yn ôl Thomas Edwards, ei fab yntau, 'tynerwch duwiol ac arafwch doethineb a'i nodweddai'. Ffermio tyddyn Pwllcenawon ar lannau Afon Rheidol a wnâi, a'i dy yn adeilad muriau pridd 30 troedfedd o hyd, 15 troedfedd o led a 12 troedfedd o'r llawr i'w fargod. Mae'r ffaith mai un brif ystafell, sef cegin, 'gyda simnai eang y gallech weled y sêr drwyddi', ac yna ystafell wely fechan ar gyfer gw r y ty a'i wraig, ac ar y lloft ddwy ystafell arall, un yn ddiffenestr oherwydd treth y goleuni, sef y dreth annynol ar ffenestri a barhaodd mewn grym tan 1851, lle cysgai'r bechgyn, ac un ystafell wely arall ar gyfer y merched a oedd yn y ty, yn arwyddo nad cyfoethogion o fath yn y byd oedd teulu Pwllcenawon, ond pobl ddigon llwm eu hamgylchiadau. Roedd un ystafell fechan ychwanegol a ddefnyddid i letya pregethwyr a ddeuai i wasanaethu yng nghapel Pen-llwyn. Enw gwraig Lewis Edward oedd Margaret (1785–1854), ac iddi hi, o ran pryd a gwedd, yr ymdebygai Lewis y mab fwyaf. 'Cydwybodol a gwirioneddol gyda chrefydd' ydoedd yn ôl Thomas, ei mab, 'dyfal a chyson gyda phob moddion o ras, haelionus i'r tlodion, a hynod o ffyddlon yn ôl ei gallu gydag achos Duw yn ei holl rannau'. Roedd y ddau yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a Lewis Edward yn flaenor yng nghapel Pen-llwyn am ran helaeth o'i oes.

Ar eu haelwyd fodlon os llwm ym Mhwllcenawon y ganed wyth o blant: Lewis, yr hynaf a aned, fel y nodwyd, yn 1809; Thomas (1812–1871) a ddaeth, fel ei frawd, yn bregethwrMethodist a ddefnyddiwyd yn helaeth yn sgil Diwygiad 1859; John (1815–24), a fu farw yn blentyn; James (1817–72), a oedd yn ddibriod ac a ofalai am y ffarm ynghyd â'i dad; Eliza (1819–94); Dafydd (1822–80) a arhosodd hefyd yn ddibriod; Margaret (1824–87) a briododd âWilliamJames, Penbryn oddimewn i'r un plwyf; a Mary (1828–33), a fu hithau farw'n ifanc. 'Eu hymborth yn gyffredin oedd bara haidd, bara ceirch, caws cartref, ymenyn, llaeth amaidd ... I ginio ceid digon o fwrdram, neu o gawl cenin, wedi ei ferwi yn y crochan mawr oedd yn crogi wrth gadwen oddi wrth y trawst yn y simnai ... Gyda'r hwyr rhoddid i bawb bryd o lymru, a digonedd o fara a chaws.' Os oedd yn ddigonol, plaen oedd yr ymborth hwn, ac yn arwyddo eto fod y teulu yn gorfod gweithio'n galed er mwyn sicrhau rheidiau mwyaf sylfaenol bywyd. Er hynny, ymddengys eu bod yn ddedwydd ac yn fodlon eu byd.

Duwioldeb y Diwygiad Efengylaidd a nodweddai fywyd Lewis Edward yr hynaf a Margaret ei wraig, ac yn unol â gofynion manylaf y ffydd Galfinaidd y magent eu plant. Yn neau Ceredigion y cydiodd y diwygiad gyntaf, a gweinidogaeth eirias Daniel Rowland yn ysbardun iddo. O 1735 ymlaen, ac yn fwy eto ar ôl 'Diwygiad Llangeitho' yn 1762, pentref Llangeitho a'i heglwys blwyf a fu'n ganolbwynt i'r cynyrfiadau diwygiadol oddi mewn i'r sir, ond yn araf y bu i'r mudiad ymwreiddio tua'r gogledd. Symudiad adnewyddol oddi mewn i'r gyfundrefn Anglicanaidd oedd y diwygiad yn y cyfnod hwn heb fod ynddo nemor ddim tuedd at ymwahanu oddi wrth yr eglwys sefydledig.

'One gains the impression', meddai Geraint H. Jenkins, 'that at 2 O Ben-llwyn i Sasiwn Wystog, 1809–1830 least in Cardiganshire, Methodism was viewed as an organic part of the established Church rather than some sort of Trojan horse.' Roedd pwysau'r sefydliad i'w teimlo'n fwy fyth yng ngogledd y sir gydag eglwys hynafol Llanbadarn Fawr yn fath o is-gadeirlan yn y fro, a dylanwad landlordiaid megis Pryse Gogerddan a Powell Nanteos yn wrthbwynt grymus i enthiwsiastiaeth o unrhyw fath. Ond ni allai hynafiaeth, ffurfioldeb na ffiwdaliaeth atal yr egnïon diwygiadol rhag lledu, ac erbyn yr 1770au a'r 1780au – blynyddoedd ieuenctid rhieni Lewis Edwards – Methodistio'n fwyfwy a wnâi'r plwyfi cylchynol. Roedd seiat yng Nghwmystwyth mor gynnar â 1756, ond nid tan 1783 yr adeiladwyd capel yno. Sefydlwyd achosion ym Mhonterwyd yn 1765, yn Aberystwyth oddeutu 1770 ond nid tan 1785 yr adeiladwyd capel y Tabernacl yn lluest iddo, yn Nhaliesin oddeutu 1773 a chapel yn 1791, a Phen-llwyn yn 1779 gyda'r capel yn dilyn yn 1790. Byddai achosion eraill yn prysur ymffurfio mewn mannau megis Llanafan, Capel Dewi, y Garn (Bow Street) a Thal-y-bont yn y degawd a mwy nesaf. Tynnwyd Lewis a Margaret Edward i mewn i'r ymchwydd hwn, ac erbyn marwolaeth Daniel Rowland yn 1790 roedd y mudiad Methodistaidd yn prysur ddisodli'r 'Hen Fam' fel y dewis ysbrydol mwyaf poblogaidd ar gyfer crefyddwyr y fro.

Pan aned Lewis Edwards yn 1809 roedd yr hen gysylltiad hanesyddol rhwng yr eglwys sefydledig a'r mudiad diwygiadol o dan straen cynyddol a phob argoel y byddai'n torri'n derfynol maes o law. Ymhen dwy flynedd byddai'r rhwyg wedi digwydd pan lywyddodd Thomas Charles dros y sasiynau, y naill yn y Bala, Meirionnydd, ym Mehefin 1811 a'r llall yn Llandeilo Fawr, sir Gaerfyrddin, chwe wythnos yn ddiweddarach, a ordeiniodd 21 o bregethwyr y corff i weinyddu bedydd a Swper yr Arglwydd. 'I once fondly hoped that theWelsh Calvinistic Methodists would have continued in existence, as such, during your days at least', meddai Thomas Jones, brodor o'r Hafod, Ceredigion, a oedd bellach yn glerigwr yn Creaton, Swydd Northampton, wrth ei gyfaill Thomas Charles. 'But they are no more, no such body of men now exist in Wales, no, no, they are no more, and this I most deeply lament.' I Thomas Jones, Creaton, ac eraill o blith yr offeiriaid efengylaidd, mudiad a aned oddi mewn i'r eglwys sefydledig oedd Methodistiaeth Gymreig a'i bwrpas oedd diwygio'r eglwys honno trwy ei chynysgaeddu hi â disgyblaeth foesol, egni ysbrydol a diwinyddiaeth iachus. 'You probably will attribute this to mistaken High Church principles, but surely not very high when I so highly esteem Methodism such as had existed long in Wales, and which I ardently O Ben-llwyn i Sasiwn Wystog, 1809–1830 3 wished to exist till the whole Church had been illuminated and renovated ... But lo! The bright prospect was clouded in a day.' Ymhlith y rhai a ordeiniwyd yn Llandeilo ar 8 Awst 1811 yr oedd Ebenezer Morris (1769–1825) o Dw r-gwyn, Lledrod, ac Ebenezer Richard (1781–1837) o Dregaron, y ddau yn bregethwyr grymus, yn ddynion o allu mawr a phenderfyniad di-ildio ac erbyn hynny yn arweinwyr diymwad Methodistiaid Ceredigion. Perthynent i'r to newydd a fyddai'n arwain cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn ei gyfnod cychwynnol fel mudiad a oedd bellach yn rhydd o ddylanwad yr offeiriaid efengylaidd ac yn llwyr annibynnol ar yr 'Hen Fam'. Byddai'r ansicrwydd eglwysyddol hwn yn pwyso'n drwm ar Lewis Edwards maes o law, ac yn ei arwain, wedi iddo ddychwelyd o'r Alban, i hyrwyddo Presbyteriaeth ar batrwm John Knox a Thomas Chalmers ar ei gyd-Fethodistiaid Cymreig. Ond roedd hynny eto i ddod.


Addysg Gynnar

Gorchwyl cyntaf rhieni Edwards er lles y plant oedd sicrhau addysg ar eu cyfer. Fel amaethwr cyffredin mewn plwyf pellennig a oedd yn rhan o gymdeithas ddigyfnewid, unig uchelgais Lewis Edward yr hynaf oedd sicrhau fod yr etifeddiaeth yn cael ei throsglwyddo i'r genhedlaeth a ddeuai ar ei ôl. Addysg gyda'r fwyaf elfennol oedd yr unig addysg a fwriadai'r tad ei rhoi i'r mab, ar y cyntaf beth bynnag, gyda'r disgwyliad y deuai yn y man yn olynydd iddo ac yn benteulu ei hun. Ac roedd yr ysgol gyntaf yr aeth Edwards yr ieuaf iddi yn adlewyrchu'r ffaith hon. 'Yr ysgol gyntaf gafodd Lewis Edwards, pan nad oedd ond plentyn', meddai Thomas ei frawd,

ydoedd gydag un Edward Jones, mewn lle a elwid Pwll-clai Bach ... oddeutu milltir o'i gartref. Yr oedd Edward Jones yn berthynas i'r teulu, ac yn lletya gyda hwynt; felly 'ewyrth Edward' y byddai y plant yn ei alw. Prif gymhwyster yr ewythr hwn i fod yn ysgolfeistr oedd iddo fod yn trigo am ychydig yn Lloegr, a'i fod yn medru tipyn o Saesneg.


Mewn ty to gwellt yng Nglanyrafon yr oedd yr ysgol hon, rhwng y Lasgrug a'r Bontbren, a law yn llaw ag ewythr Edward yr âi yno yn feunyddiol yn bedair a phum mlwydd oed. 'Yn yr ysgol hon', meddai ei fab, 'y dysgodd ddarllen Saesneg.'

Os ychydig fedrusrwydd mewn Saesneg oedd unig gymhwyster ei ewythr i fod yn athro arno, nid felly yr oedd hi yn hanes ei athrawon diweddarach. Fe'i trosglwyddwyd o ysgol Pwll-clai i ysgol fechan arall, yr un mor ddi-nod, o'r enw Pen-y-banc nid nepell i ffwrdd, ac enw'r ysgolfeistr yno oedd John Davies. Hynodrwydd hwn oedd iddo gael ei addysgu, fel cymaint o ysgolfeistri'r sir, yn ysgol ramadeg nodedig Ystradmeurig. Beth bynnag am dlodi Ceredigion, bu hi'n gyfoethog er y ddeunawfed ganrif yn ei hysgolion. Roedd ysgol ramadeg yn Llanbedr Pont Steffan, yn bennaf ar gyfer eglwyswyr, ac yn ardal Llandysul roedd David Davis (1745–1827), Castellhywel, gweinidog Ariaidd Llwynrhydowen, wedi cynnig addysg glasurol gyda'r rhagoraf i feibion ffermydd Ymneilltuol ac i ddarpar offeiriaid y sir fel ei gilydd. Yn Neuadd-lwyd ger Aberaeron roedd Dr Thomas Phillips (1772–1842), yr Annibynnwr, wedi cyfuno'i weinidogaeth gydag addysgu ieuenctid yn ei athrofa, ond yng nghanol y sir ysgol Ystradmeurig oedd â'r flaenoriaeth. 'Ni fu i mi ond cysylltiad anuniongyrchol ag Ystradmeurig',meddai Lewis Edwards, 'trwy gael fy addysg glasurol gan rai oedd wedi bod yno.' Sylfaenydd ysgol Ystradmeurig oedd Edward Richard (1714–77), ysgolhaig clasurol ardderchog a gyfunai'r safonau academaidd uchaf â ffyddlondeb diwyro i fanylion y ffydd Anglicanaidd. Fe'i perchid gan bawb, nid yn gymaint ar sail ei eglwysyddiaeth, ond am iddo godi to ar ôl to o offeiriaid ac athrawon a lefeiniodd liaws o blwyfi ac ysgolion bychain Ceredigion â dysg. Efallai nad oedd John Davies, ail athro Lewis Edwards, yn un o gynhyrchion disgleiriaf Ystradmeurig, ond roedd stamp y lle arno, ac ymMhen-y-banc, '[d]ysgodd y bachgen gryn lawer o rifyddiaeth'.

Roedd cartref y teulu ar ochr arall Afon Rheidol i gapel Pen-llwyn, ac yno yr oedd cyrchfan addysgol nesaf Lewis, a âi yno erbyn hyn yng nghwmni Thomas, ei frawd iau. Gan fod y bont bellter i ffwrdd rhydio'r afon ar ystudfachau a wnâi'r ddau ysgolhaig bach. 'Gorchwyl pwysig a difyr i'r plant oedd croesi'r afon yn y dull hwn, Thomas yn cario'r bwyd, a Lewis yn cario Thomas a'r bwyd. Nid peth bychan oedd croesi afon ar hen fachau coed gyda thaclau felly.' Thomas ei hun a gofiodd yr anturiaeth o rydio dyfroedd y Rheidol, a'r troeon trwstan a fyddai'n dilyn ar adegau.

Un tro, digon siw r i chwi, syrthiodd Lewis i'r dw r, a thybiodd Thomas fod yn iawn iddo yntau ollwng ei afael yn ysgwyddau ei frawd a syrthio i'r dwr gydag ef. Ond cafodd y bychan gerydd difrifol ganddo yn y fan am ei ffolineb. A gofynodd hen gwestiwn pwysig a dyrys iddo, pan hyd ei benliniau mewn dwr: 'A oedd yn rhaid i chwi fynd i'r dwr oblegid i mi fynd i'r dwr?'


Ni wyddom a gafodd ateb ai peidio, ond pwrpas y croesi beunyddiol hwn oedd derbyn dogn bellach o addysg, yn ysgol Pen-llwyn y tro hwn, dan un arall o ysgolfeistri Ystradmeurig, sef gw r o'r enw Lewis Lewis.

Mab Rhiwarthen-uchaf oddi mewn i'r plwyf oedd y Lewis Lewis hwn, ac olynwyd ef gan Dafydd Jones, brodor o Langwyryfon ac un arall o gyn-ddisgyblion ysgol Ystradmeurig. 'Yno y darllenodd Lewis Edwards y llyfrau hawddaf yn Lladin, megis Caesar a Sallust, y dysgodd ramadeg yr iaith, ac y dechreuodd ar y Groeg yn y Testament Newydd, aHomer.' Tuag un ar ddeg oed ydoedd pan ddechreuodd yno, ac arhosodd yn ysgol Pen-llwyn am tua dwy neu dair blynedd, hyd oddeutu 1823. Felly yn ogystal â'r Gymraeg a gafodd gartref, yn y capel ac yn yr Ysgol Sul, roedd ganddo afael ar y Saesneg, i ryw raddau beth bynnag, ac roedd bellach wedi dechrau ymgodymu â'r ieithoedd clasurol. Ond beiblaidd a Methodistaidd oedd hyd a lled ei ddarllen hyd yma, fel y gellid disgwyl. Cofiant y Parch. Thomas Charles (1816) gan Thomas Jones o Ddinbych oedd ei hoff lyfr:

Hwn, ynghyd â'r Geiriadur, a'r Merthyrdraith, a Taith y Pererin, a'r Rhyfel Ysbrydol oedd y llyfrau a ddarllenid gennyf gyda mwyaf o flas. Yr oedd gan fy nhad rai lyfrau eraill, megis Gurnal, yr Ysgerbwd Arminaidd, ac Eliseus Cole, ond yr oedd y rhai hynny uwchlaw fy nghyrraedd. Ond am y lleill yr oeddent i mi yn ymborth beunyddiol, ac ohonynt oll ni wnaeth yr un gymaint o les ysbrydol i mi â hanes Charles o'r Bala.


Roedd ef eisoes yn tyfu'n blentyn darllengar, a'r awch am ddysg yn feunyddiol yn dyfnhau.

Yn ôl trefn arferol pethau byddai Lewis a Margaret Edward wedi gwneud eu cyfiawn ddyletswydd tuag at eu mab hynaf trwy derfynu ei addysg wedi ychydig flynyddoedd yn ysgol Pen-llwyn, ond daeth yn amlwg iddynt fod ganddo alluoedd deallusol ymhell uwchlaw'r cyffredin. Roedd John Morgan, blaenor yng nghapel Aber-ffrwd, wedi sylwi ar hyn, a phwysodd yn drwm ar y rhieni i feithrin ei alluoedd academaidd hyd yr eithaf. 'Gw r deallus iawn oedd hwn', meddai Lewis Edwards amdano,

yn sicr o flaen ei oes. Yr oedd ganddo ddau fab yn ysgol Llanfihangel. O'r diwedd, perswadiodd ef fy nhad trwy hir grefu i fy anfon i'r un ysgol, a chymerodd fi wrth ei ysgil ar gefn ei geffyl i dy ei gyfyrder, Richard Davies, aelod, os nad blaenor, ym Mhen-y-garn, a chydag ef y bûm yn lletya.


Llanfihangel Genau'r-glyn oedd y Llanfihangel hon, ysgol uwch ei dysgeidiaeth nag ysgol Pen-llwyn, a gwy r mewn urddau eglwysig a fyddai'n dysgu'r plant yno. Richard Jones oedd ei athro cyntaf, un arall o gynnyrch Ystradmeurig, a mab i'r pregethwr Methodist John Jones, Birch Hill, Llangeitho. 'Yr oedd yn un o'r athrawon gorau a gefais erioed. Meddai y gallu i ddenu y plant i'w hoffi', a dyn o'r enw Hughes, clerigwr arall, a'i dilynodd: 'Ysgolhaig gwych oedd yntau, ond ni wyddai y ffordd i galon y plant.' Daeth hi'n amlwg erbyn hyn nad i drin y tir, bugeilio'r defaid na godro'r da y bwriadwyd Lewis Edwards mewn bywyd. 'Crefydd a dysgeidiaeth oedd y cwbl ganddo', cofnododd Thomas, ei frawd,

ac yr oedd yn amlwg na ddelai o werth dim ar y fferm. Yr oedd Thomas, fel arall, yn weithiwr rhagorol, ac yn cynorthwyo ei rieni gyda phopeth. Mynych y dywedai ei rieni wrtho, 'Mae rhyw ddaioni ynot ti Thomas, ond ni wyddom beth ddaw o dy frawd Lewis!' Yr oedd yn hollol ufudd iddynt ym mhob peth, ond gwelent nad oedd y byd hwn ynddo o gwbl, ac nid oedd un glem arno wrth geisio ei drafod. Pan ofynnid iddo, er esiampl, am fynd â'r gwartheg i'r cae, elai yn union, a llyfr, ond odid, yn ei law. Cerddai ar ôl y da, a'i drwyn yn y llyfr. Yn y man elai heibio iddynt bob un, ac i'r cae wrtho ei hun, heb dynnu ei lygaid oddi ar y llyfr, a'r gwartheg wedi eu gadael ymhell ar ôl!


Nid oedd dim amdani ond i'r rhieni gynilo'n fwy er mwyn sicrhau addysg bellach ar ei gyfer yn y gobaith y câi ddilyn rhyw alwedigaeth a oedd yn nes at ei anian. Wedi blwyddyn yn Llanfihangel, ac wedi hir grefu drachefn, symudwyd ef i ysgol arall, yn Aberystwyth y tro hwn. Roedd Lewis Edwards bellach tuag un ar bymtheg oed.


(Continues...)

Excerpted from Lewis Edwards by D. Densil Morgan. Copyright © 2009 D. Densil Morgan. Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Contents

Rhagair, ix,
1 O Ben-llwyn i Sasiwn Wystog, 1809–1830, 1,
2 O Lundain i Dalacharn, 1830–1833, 21,
3 Prifysgol Caeredin, 1833–1836, 44,
4 Blynyddoedd Cyntaf y Bala, 1837–1842, 69,
5 Tuag at Y Traethodydd, 1842–1845, 96,
6 Rhwng Y Traethodydd ac Athrawiaeth yr Iawn I, 1845–1860, 119,
7 Rhwng Y Traethodydd ac Athrawiaeth yr Iawn II, 1845–1860, 142,
8 Y Gymanfa Gyffredinol, y Fugeiliaeth a'r Etholiad Mawr, 1860–1870, 170,
9 Blynyddoedd y Machlud, 1870–1887, 202,
10 Lewis Edwards, ei Edmygwyr a'i Feirniaid, 230,
Nodiadau, 264,
Atodiad, 301,
Mynegai, 308,

From the B&N Reads Blog

Customer Reviews